Gwybodaeth bwysig am hygyrchedd
Mae’n bwysig iawn i ni bod ein gwefan ni yn hawdd i’w ddefnyddio, i’w ddeall ac yn hygyrch.
I wneud ein gwefan mor hygyrch a phosib, rydym ni wedi cymryd y camau isod gan ddilyn canllawiau WCAG 2.1.
Canfod
-
rydym wedi gosod alt text i gyd-fynd a chynnwys sydd ddim yn destun
-
mae cynnwys y wefan wedi ei drefnu yn rhesymegol
-
rydym ni wedi osgoi defnyddio lliw yn unig i esbonio neu wahaniaethu rhywbeth
-
defnyddio lliwiau testun sy’n hawdd i’w darllen o ystyried y cefndir
-
mae’r wefan yn un sy’n ymateb: er enghraifft, mae’n newid gogwydd os ydych chi’n troi’ch ffôn chi
Gweithredu
-
mae cynnwys sy’n symud yn gallu cael ei stopio, ei oedi a’i chwarae
-
mae’r wefan wedi ei threfnu fel bod pobl yn medru symud drwy’r cynnwys mewn modd sy’n gwneud synnwyr
-
rydym ni’n defnyddio dolenni sy’n glîr o ran i ble byddan nhw’n cymryd rhywun
Deall
-
rydym yn gwneud hi’n glîr ym mha iaith mae’r cynnwys, a hysbysu os ydy hyn yn newid
-
rydyn ni wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y wefan yn gyson ac ymddwyn mewn modd disgwyliadwy
-
mae gan ffurflenni feysydd llenwi amlwg, clîr
Cadarn
-
rydym yn defnyddio HTML fel bod technoleg gynorthwyol yn medru dehongli gwybodaeth yn gyflym
-
mae gwybodaeth bwysig neu negeseuon wedi eu llunio mewn modd sy’n hysbysu defnyddwyr o’u bodolaeth a’u bwriad, ac yn eu caniatáu nhw i ryngweithio â nhw gyda’u technoleg gynorthwyol
Os oes elfennau o’n gwefan ni nad sydd yn bodloni anghenion sydd ganddoch chi, os gwelwch yn dda, cysylltwch â ni: post@santbaruc.cymru