healthy-eating-2.png
Bwyta'n Iach

Mae Iechyd a Lles yn ran greiddiol o gwricwlwm Ysgol Sant Baruc. Ond nid blaenoriaeth ein hysgol ni yn unig yw Iechyd a Lles. Mae deddfwriaeth ddiweddar Llywodraeth Cymru yn brawf o’u hymrwymiad hwythau i’r nod cenedlaethol hwn.

governance_will.svg
Prydau Ysgol am Ddim

Cyflwynwyd polisi yn 2022, trwy gytundeb Cyd-weithio Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru,  i ddarparu prydoedd ysgol am ddim i bob un plentyn ysgol gynradd hyd at 2025. 

Bydd hyn yn cael ei gyflwyno fesul blwyddyn gan ddechrau gyda’r disgyblion ieuengaf.

Tan hynny, cost prydiau ysgol ydy £2.45 y diwrnod, a dylid talu drwy system ParentPay

Mae plant mewn teuluoedd sydd yn derbyn budd-daliadau yn gallu hawlio pryd ysgol am ddim drwy’r Awdurdod Lleol. 

I hawlio’r hyn sy’n eiddo i chi, neu i wirio a ydych chi yn gymwys, ewch i’r ddolen yma: gwneud cais nawr

logo.svg
Safonau Ysgol

Gyda llaw, diolch i’r Ddeddf Safonau a Threfnidaeth Ysgolion a gyflwynwyd gan Llywodraeth Cymru yn 2013, maen rhaid i awdurdodau Lleol ddarparu brecwast am ddim i bob un plentyn ysgol gynradd yng Nghymru.

Mae’n rhaid i’r bwyd brecwast gwrdd â safonau iechyd a maeth sydd wedi’u hamlinellu yn y rheoliadau uchod.