parents_PTA@2x.png
Mae’r Gymdeithas Rhieni ag Athrawon yn rhan ganolog o gymuned yr ysgol.

Mae’r nod yn yr enw - Cymdeithas Rhieni ag Athrawon. Cyfle i gyd-weithio er mwyn gwneud yr ysgol yn lle gwell i’r plant gael dysgu, chwarae a mwynhau.

Mae CRhA Ysgol Sant Baruc yn cyfuno sgiliau ac arbenigedd rhieni, athrawon a phlant er mwyn codi arian i’r ysgol a chryfhau cymuned yr ysgol. 

Mae’r arian sy’n cael ei gasglu yn cael ei wario ar bethau na fyddai’r ysgol yn medru talu amdano fel arfer. 

Parents@2x.png
Cymerwch Ran

Does dim disgwyliad ar neb nac, os ydych eisiau cyfrannu, o ran ymroddiad amser - bydd unrhyw help llaw yn cael ei groesawi. 

Mae sawl ffordd y medrwch chi ddod yn rhan o’r gymuned yma: cyfryngau cymdeithasol; cyfarfodydd; gwirfoddoli; trefnu digwyddiadau. 

CRhA Ysgol Sant Baruc