music_eisteddfod.svg
humanities_natural.svg
Profiadau addysgol sy’n eiddo i ni

Yn Ysgol Sant Baruc, rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu profiadau ystyrlon ar draws y 6 Maes Dysgu a Phrofiad. Mae’r ymrwymiad hwnnw, ein staff talentog, ymroddedig a’n campws campus yn caniatau addysg lawn i bob pletyn.

O fewn fframwaith Cwricwlwm i Gymru, mae hawl gan Ysgol Sant Baruc - a phob ysgol arall, wrth gwrs - i gynllunio profiadau sy’n unigryw a pherthnasol i’n cymuned ni. 

Gan ei bod hi’n eiddo i ni, mae’n gyfle euraid i gyd-weithio gyda’n cymuned drwy drafod, sgwrsio a rhannu profiadau er mwyn mireinio’r cwricwlwm yn barhaus. Dydy hi byth yn sefyll yn stond! 
 

ages-banner.svg
Oedrannau

Cyfres o gamau crynodol ydy datblygiad plant. Mae’n digwydd yn gyflym ond does dim angen rhuthro, chwaith - pwyll pia hi. 

Gyda phob cannwyll ychwanegol ar y gacen pen-blwydd, daw cam newydd o ddatblygiad. Mae plant yn rhoi llwyth o egni ac ymdrech fewn i’w datblygiad ac mae pob un yn adeiladu ar y llall. Cynnydd ydy’r nod. 

curriculum-younameit.svg
Meysydd Dysgu a Phrofiad

Y cwricwlwm ydy popeth sy’n digwydd yn Ysgol Sant Baruc rhwng agor y drysau yn y bore a’u cau gyda’r hwyr - ac, yn wir, weithiau tu hwnt.