websiteillustrations_aboutus_1.svg
star-child.svg
Ysgol Gymraeg Sant Baruc
star-child.svg
Ysgol Gymraeg Sant Baruc
star-child.svg
Ysgol Gymraeg Sant Baruc
star-child.svg
Ysgol Gymraeg Sant Baruc
Yn ein hysgol ni, mae croeso cynnes yn disgwyl pawb

Mae’r campws newydd sbon wedi’i ddylunio i’r dim er mwyn darparu addysg gyfoes sy’n cynnwys pob aelod o’n cymuned ni.

Mae plant yn mwynhau eu dysgu! Cyfunwn chwarae a phrofiadau i ddarparu cyfleoedd dysgu ystyrlon, cyffrous dan do ac yn yr awyr agored. Mae plant yn gwneud cynnydd cadarn ar hyd eu taith yma ac, wrth wneud, yn meithrin awch gydol-oes i barháu i fentro a dysgu.

Ein Gwerthoedd

ethos_header.svg
Ethos & Gwerthoedd

Drych i’n ymagweddau ac uchelgeisiau ydy ein hethos. Ein gwerthoedd ydy’r egwyddorion sy’n ffurfio’r ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn ymddwyn. Dyma’r ffordd rydyn ni’n gwneud pethau a dyma’r ffordd ydyn ni.

faq_header.svg
Cwestiynau Cyffredin

Cwestiwn am dei neu grys? Pendroni am wyliau neu waith cartref? Dyma’r man i gael gwybod popeth sydd angen ynglyn â bywyd yn Ysgol Gymraeg Sant Baruc. 

school-staff.svg
Staff â’u Manylion Cyswllt

Cymuned ag un nod ydym ni; tîm sy’n gweithio gyda’i gilydd. Mae gan bawb eu rôl, ac mae pawb yn chwarae eu rhan yn natblygiad a chynnydd y plant.