PTA (1).png
Arweinyddiaeth Ysgol

Drwy weithio law yn llaw ag arweinyddiaeth yr ysgol, mae’r llywodraethwyr yn sicrhau diogelwch plant, yn dal yr ysgol yn atebol i safonau ac yn sicrhau fod y ddarpariaeth ar gyfer pob disgybl o’r ansawdd ucha’ posib. 

Mae’r bartneriaeth yma rhwng yr ysgol a’r llywodraethwyr yn hollbwysig ar gyfer cynnydd parhaus yr ysgol a ffyniant ein cymuned ysgol.

governing body.png
Y Corff Llywodraethu

Gwirfoddolwyr etholedig ydy Llywodraethwyr. Maen nhw’n aelodau o’r gymuned leol sydd yn cydweithio yn agos gyda’r Pennaeth a’r staff. 

Mae gan rai Llywodraethwyr arbenigedd penodol sy’n cyfoethogi dealltwriaeth a chyrhaeddiant yr ysgol, mae rhai yn aelodau staff, mae rhai yn wleidyddion, rhai yn aelodau o’r gymuned a rhai yn rhieni. 

Mae’r Llywodraethwyr unigol yma yn ffurfio Corff Llywodraethu Ysgol Sant Baruc. 

Rôl strategol, oruchwyliol sydd gan y Corff Llywodraethu wrth iddyn nhw tra bod y Pennaeth yn gyfrifol am y reolaeth ddyddiol o’r ysgol. 

governance_will.svg
Bydd y Llywodraethwyr yn

1. Sicrhau eglurder gweledigaeth, cenhadaeth, ethos a chyfeiriad strategol
2. Dal arweinwyr yr ysgol yn atebol am berfformiad academaidd disgyblion Ysgol Sant Baruc a rheolaeth effeithiol, effeithlon o’r staff
3. Goruchwylio perfformiad ariannol a sicrhau gwerth am arian

governance_wont.svg
Bydd y Llywodraethwyr ddim yn

1. Gyfrwng trosglwyddo cwynion

2. Siarad ar ran rhieni

governance_who.svg
Pwy yw pwy?

Er mwyn cael deall rôl Llywodraethwr ysgol a’r Corff Llywodraethu yn well, ewch yma: