ethos-attitudes.svg
Mae’n dyheuadau a’n hymagweddau yn ddrych i’n hethos

Yr egwyddorion sy’n ffurfio ein ffordd o feddwl ac ymddygiad ydy gwerthoedd.

Dychmygwch eich bod am dro ar b’nawn cynnes ar hyd promenâd Ynys y Barri. Yno, mewn moment o ddyheuad plentynaidd, di-niwed, wedi’ch bachu gan addewid boddhad melys, lliwgar, rydych yn penderfynu prynu darn o roc. Nid unrhyw ddarn o roc cofiwch chi, ond darn o roc Ysgol Gymraeg Sant Baruc. Holltwch y roc hwnnw yn ei hanner. Be’ welwch chi pan edrychwch i berfedd y peth? Beth sy’n treiddio ar hyd pob darn o’n hysgol ni?

Fe ddewch chi o hyd i dri gair syml, pwerus sy’n ein tanio ni:

Credu • Cyflawni • Llwyddo

Dyma’r gwerthoedd sydd ym mêr ein hesgyrn; i’w gweld yn y ffyrdd rydym ni’n gweithio, yn byw ac yn bod.

ethos_to fail - to live.svg
I fentro, i fethu, i roi cynnig arall - dyma ddysgu sut mae byw

Mae mwy i fywyd ysgol na dysgu pethau yn unig. Yn Ysgol Sant Baruc, rydym ni’n deall ein bod ni’n dysgu byw. Mae’r perthnasoedd da rhwng oedolion a phlant yn meithrin uchelgais y disgyblion ac yn eu caniatáu nhw i fentro, i fethu, i roi cynnig arall - dyma ddysgu sut mae byw. 

Yn ein hysgol ni, mae staff yn hoffi addysgu ac yn mwynhau cwmni’r plant. Nid dim ond y plant sy’n dysgu chwaith - mae’r staff yn dysgu hefyd. Gweithia’r arweinwyr a staff gyda’i gilydd i osod nodau ac amcanion ar gyfer datblygiad proffesiynol barhaus. Mae staff wedi gosod ac yn cynnal diwylliant dysgu proffesiynol sydd yn sicrhau eu bod yn datblygu ac yn mireinio eu crefft.

Yn Ysgol Sant Baruc, rydym yn symud ymlaen gam wrth gam, law yn llaw, er mwyn y plant.

Ond peidiwch a chymryd ein gair ni yn unig

Dyma yr hyn yr adroddodd Estyn - arolygwyr addysg ac hyfforddiant yng Nghymru - yn dilyn eu harolygiad:

Gweld Adroddiad

"Mae ethos gofalgar a chynhaliol yr ysgol yn sicrhau awyrgylch dysgu effeithiol. Ategir hyn gyda pharch a pherthynas waith gadarnhaol iawn rhwng oedolion a disgyblion sy’n arwain at ymddygiad da iawn tu fewn a thu allan i wersi. Mae arweinwyr yn gosod disgwyliadau uchel ar gyfer eu hunain, staff a’r disgyblion. Mae gan y pennaeth weledigaeth glir iawn ar gyfer sicrhau bod y disgyblion yn cyrraedd safonau uchel o fewn awyrgylch cartrefol a Chymreig ei naws."