artgirl.svg
Deall y daith

Gyda phob cannwyll ychwanegol ar y gacen pen-blwydd, daw cam newydd o ddatblygiad. Mae plant yn rhoi llwyth o egni ac ymdrech fewn i’w datblygiad ac mae pob un yn adeiladu ar y llall. Cynnydd ydy’r nod. 

Mae’r profiad ysgol rydym ni wedi’i guradu wedi’i deilwra ar gyfer camau datblygiad gwahanol. Ar ben hynny, rydym ni’n cwrdd â phlant ar pa bynnag gam maen nhw wrthi’n ei gyflawni. Wedi’r cyfan, rydym ni gyd yn unigryw.

Yn Ysgol Sant Baruc, rydym ni’n cwrdd â blaenoriaethau datblygiadol y plant, ac rydym ni’n deall eu taith nhw.

  • 3-5-ages.svg

    3 - 5 mlwydd oed

    Chwarae. Mae’n fusnes difrifol!

    Yn ystod y blynyddoedd cynnar yma, mae chwarae yn allweddol ar gyfer lles a datblygiad corfforol. Mae chwarae yn meithrin pobl chwilfrydig sy’n meddu ar sgiliau cymdeithasol cryf. Drwy gyfuno ystod eang, cyfoethog o gyfleoedd chwarae a phrofiadau sy’n ennyn diddordeb, mae plant yn datblygu sgiliau ar gyfer y siwrne gyfan ar gam cyntaf eu taith.
  • 5-7-ages.svg

    5 - 7 mlwydd oed

    Rhuglder, hwyl, a chyfeillgarwch.

    Chwarae, darganfod, a chreadigedd ydy bywyd plant sy’n chwilfrydig a chymdeithasol. Mae’r holl waith caffael iaith yn dwyn ffrwyth ac mae plant yn ymhyfrydu yn eu rhuglder cynyddol. Mae’r gwreiddiau dwfn sydd gan y plant yn eu perthnasau gyda’u cyfeillion, ac yng nghymuned yr ysgol yn meithrin plant hapus sy’n hyderus i archwilio, dychmygu, a datblygu.
  • 7-9-ages.svg

    7 - 9 mlwydd oed

    Pobl gyfeillgar, chwilfrydig sy’n dechrau archwilio, darganfod a chwarae yn y byd sy’n tyfu o’u cwmpas.

    Erbyn hyn, mae plant yn siarad yn rhugl yn Gymraeg ac yn Saesneg am ddigwyddiadau y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Peth da ‘fyd - bydd ganddyn nhw ddigon i’w ddweud! Mae gweithgareddau a phrofiadau grwp, gan gynnwys ymweliadau preswyl cyffrous, yn dyfnhau a chadarnhau perthnasau. Mae hyn yn caniatau i sgiliau a gwybodaeth plant aeddfedu.
  • 9-11-ages.svg

    9 - 11 mlwydd oed

    Mae’r byd yn fawr; mae’r posibiliadau’n ddi-ben-draw.

    Mae chwarae, maethu perthnasau da a dysgu yn allweddol i blant yr oedran yma. Rhain sy’n rhoi sefydlogrwydd mewn cyfnod o newid sylweddol i’r corff, â’u dealltwriaeth o’r byd o’u cwmpas. Yn y cyfnod yma, mae’n bosib bydd y plentyn aeth i’r gwely yn wahanol i’r plentyn sy’n dod lawr i gael brecwast! Mae’n gyfnod o newid sydyn, cyflym. Daw annibynniaeth a chodi eu llais yn holl-bwysig iddyn nhw wrth i blentyn ddeisyfu am gael ei drin fel oedolyn ifanc. Dyna pam mae’r cwricwlwm wedi’i ddylunio fel y mae i’r oedran hwn: rydym ni’n herio plant a’u cefnogi i gymryd gofal o’u hunain yn annibynnol. Rydym ni’n eu hannog i gamu tu hwnt i’w parth cysur, ac rydym ni’n rhoi sgiliau trefnu eu hunain iddyn nhw. Galluoga hyn i blant wneud y cam nesaf - pontio i Ysgol Gymraeg Bro Morganwwg - yn hyderus.