dancing-girl.svg
Cyfleusterau dan do

Mae dwy ystafell ar gael i’w llogi - Y Neuadd a’r Stiwdio. Ydych chi’n trefnu parti pen-blwydd neu trio cael y côr at ei gilydd i ymarfer? Efallai bod y Neuadd yn berffaith ar eich cyfer chi. Sesiwn Ioga ar y gweill? Dosbarth nos i’w gynnal? Byddai’r Stiwido yn siwtio i’r dim. 

football.svg
Cyfleusterau awyr agored

Mae llwyth o le awyr agored yn ein hysgol ni. Rydym ni’n ffodus iawn! Mae’r caeau a’r Llain Galed Aml Ddefnydd ar gael i’w llogi. Pêl-droed, pêl-fas, pêl-rwyd - gallwch wneud y cyfan yma.