Yn rhan o’r newidiadau sylweddol sy’n digwydd i addysg yng Nghymru, mae’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribwynlys Addysg. Mae’r ddeddf hon yn newid y modd mae pobl o dan 25 gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cael eu cefnogi mewn addysg.
Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn rhoi’r person yng nghanol popeth - mae’r Ddeddf ADY yn gwneud yr un peth. Yn Ysgol Sant Baruc, mae hyn yn ein siwtio ni i’r dim: rydym wedi cyfamodi i union yr un peth.
Nod y Ddeddf ADY ydy darparu addysg llwyr gynhwysol i blant a phobl ifanc yng Nghymru ple bo’i hanghenion nhw yn cael eu hadnabod a’u cwrdd â nhw yn gynnar.
Yn Ysgol Sant Baruc, rydym ni’n credu taw’r ddarpariaeth gyffredinol orau ar gyfer ADY ydy addysgu o ansawdd uchel drwy’r ysgol, i bawb - dysgu sy’n cynnwys pawb a sicrhau cynnydd i bawb. Mae hyn yn caniatau adnabod meysydd datblygu a chamau ymlaen.
Mae’r gwaith ADY yn cael ei oruchwylio gan yr Uwch Dîm Arwain, o dan arweiniad y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, Mr Steffan Elis.
Dydy dod i’r afael ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a gwneud yn siwr eich bod chi’n gwneud y peth iawn a derbyn y cymorth cywir ddim yn hawdd. Rydym ni’n deal hynny. Ein nod ydy cyd-weithio ar hyd y broses o adnabod anghenion, gosod darpariaeth mewn lle i sicrhau cynnydd ac adolygu er mwyn mireinio.
Os ydych chi’n dymuno cael rhagor o wybodaeth sydd yn annibynnol o gyngor ac arweiniad yr ysgol, pwyswch y dolenni yma. Cewch esboniadau o’r amryw brosesau a chael esboniad o dermau neu dalfyrriadau anghyfarwydd.
Beth i’w ddisgwyl rhieni
Cymorth i blant
Cymorth i rieni
Adnodd rhieni ADY
ADY canllaw rhieni