speech-boy@2x.png
Mae Cyfathrebu yn Sylfaenol

‘Sdim ishe gweud ddwywaith wrthym ni Gymry, nac oes? Caneuon cyn hyned a’n cilcyn o dir; hanesion wedi’u hadrodd o gwmpas y tân; tomen didoreth o gerddi ar ben cerddi; sgwrs dros baned yn y gegin; teimlo i’r byw. Ac wrth gwrs, hynny i gyd yn ein hiaith ni, gyda’n geiriau ni am ein pethau ni.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau llythrennedd a chyfathrebu drwy gydol gyrfa ysgol plant Ysgol Sant Baruc. 

Languages@2x.png

Mae’r ymrwymiad yma i’w brofi o’r cam cyntaf dros drothwy’r Meithrin wrth i bopeth fod yn Gymraeg.

Trwy’r Gymraeg bydd plant yn profi bywyd ysgol arferol a gweithgareddau sy’n cyfoethogi’r profiad hwnnw gan gynnwys ymweliadau preswyl, tripiau, clybiau ar ôl ysgol, siaradwyr gwadd i enwi ond ychydig.

Mae dysgu iaith yn gyfle i gymryd risg ac i arbrofi drwy ddefnyddio ac ymarfer seiniau, geiriau a strwythurau brawddeg newydd ac anghyfarwydd. Mae mentro yn bwysig oherwydd gwobr risg ydy hyder cynyddol, dygnwch dyfnach, a’r cymhelliant i fachu ar gyfleoedd. 
 

header_boy1@2x.png

Cyflwynir Saesneg ym mlwyddyn 3 (7 i 8 mlwydd oed), ac, erbyn i’r plant adael ar ddiwedd blwyddyn 6, mae plant yn ddinasyddion dwyieithog hyderus, cymwys.. 

Yn Ysgol Sant Baruc, rydym yn angerddol dros ieithoedd ac anelwn tuag at gynnau fflam gydol-oes am y Gymraeg a ieithoedd y byd. 

Oherwydd, wedi’r cyfan, pwy fydd yn adrodd ein hanes ni, am ein pethau ni, yn ein hiaith ni heblaw am y to iau - y plant yna sy’n chwarae ar ein caeau, yn dysgu yn ein dosbarthiadau, yn tramwyo ein coridorau - rheiny sydd wedi deall bod hyn i gyd yn eiddo iddyn nhw, hefyd.