parents_holidays@2x.png
Mae’r berthynas rhwng ein tref a dyfeisgarwch yn annatod: gwyddoniaeth a thechnoleg ydy ei phensaerniaeth a’i sylfaen.

Mae tref y Barri yn dyst i’r effaith gall Gwyddoniaeth a thechnoleg gael ar ardal.

Dros y ganrif a hanner ddiwethaf, gwnaeth y rheilffyrdd, y llongau, a’r dociau drawsffurfio’r glannau a chwyddo’r darn bach yma o arfordir i ffurfio tref fwyaf Cymru - y Barri. 

Rownd y cornel i’r ysgol mae gwneuthurwr plastigau byd-enwog, ac, nid tafliad carreg i ffwrdd yn sefyll yng nghanol yr Hafren mae Ynys Echni, lleoliad y trosglwyddiad signal radio cyntaf erioed.

science girl@2x.png
Datblygu dyfeisgarwch plant

Deallwch felly pam bod Gwyddoniaeth a Thechnoleg cymaint yn rhan o’n tref a’r ysgol - yr hyn a wnaethom ac a’n gwnaeth. 

Mae’n cwricwlwm Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn darparu cyfleoedd i blant arloesi ym myd dylunio a thechnoleg. 

Mae dysgwyr chwilfrydig, ymholgar yn cael boddhad wrth ddarganfod atebion, ac maent yn defnyddio eu canfyddiadau i ddylunio a chreu. Maen nhw’n gwneud hyn weithiau gyda llaw - morthwyl, llif, hoelion; ac weithiau drwy ddulliau mwy modern- dylunio digidol, cyfrifiaduron, argraffu 3D.

science_nature.svg
Arsylwi, Archwilio, Arbrofi

Ond nid dim ond ffurfio’r dyfodol sydd dan sylw yma - rhoddir amser i arsylwi yn fanwl ar blanhigion; patrymau naturiol; y trychfilod o dan y cerrig; y rhwyd yn y pwll; edrych drwy’r sbienddrych a’r chwyddwydr.

Rydym yn archwilio bioleg, cemeg a ffiseg mewn ffyrdd ystyrlon, perthnasol. 

Rydym ni’n gwneud hyn i gyd oherwydd bod profiad llawn o Wyddoniaeth a Thechnoleg yn llwyfan i uchelgais a chreadigedd; mae’n dweud wrth blant y gallan nhw wneud gwahaniaeth.

Oherwydd - edrychwch o’ch cwmpas - gwneud gwahaniaeth ydy’r hyn sy’n para yma.