indoor-choir@2x.png
Gwlad beirdd a chantorion

Mae’n amhosib gwahanu y celfyddydau mynegiannol a Chymru - mae’n rhan fawr o’n treftadaeth ni fel cenedl. 

Shani Rhys Jones ac Iwan Bala, Grace Williams a Dafydd Iwan, I.D. Hoosen a Waldo Williams, Iwan Rheon a Ruth Jones - mae mawrion y celfyddydau rif y gwlith yng Nghymru; ein cenedl yn gytser o gantorion, arlunwyr, awduron a beirdd. Efallai eich bod chi yn un hefyd? Fyddwn i’n synnu dim. 

Ond eto, mae’r Celfyddydau Mynegiannol llawer mwy na’r mawrion yma yng Nghymru - maen nhw’n perthyn i ni i gyd. Englyn ar achlysur arbennig; canu plygain yn y capel; Yma o Hyd yn y Wal Goch; Myfanwy yn atseinio mewn tafarndai; Calon Lân ar y teras; caneuon a dawnsio gwerin wedi’u traddodi o genhedlaeth i genhedlaeth.

curriculum-header@2x.png
Sawl disgyblaeth, sawl cyfle

Mae’n cwricwlwm yn dathlu ein treftadaeth ddiwylliannol. Ar draws pump disgyblaeth (celf, dawns, drama, cerddoriaeth, a ffilm a’r cyfryngau digidol) mae plant yn cael eu harwain ar hyd y broses greadigol. 

Mae plant yn dysgu cynllunio, creu a gwerthuso ar raddfeydd cynyddol gymhleth ar hyd eu gyrfa ysgol. 

Mae’r Celfyddydau Mynegiannol i bawb ac mae ei natur gynhwysol yn galluogi plant i ddatblygu eu syniad o bwy ydyn nhw drwy fynegi eu hunain. 
 

music_eisteddfod.svg
Cyfle i bawb

Yn Ysgol Sant Baruc, mae cyfle i bob plentyn greu, ymarfer, perfformio a gwerthuso yn aml ym mhob un o’r disgyblaethau. 

Trwy gystadlu yn yr Eisteddfod, Book Slam a pherfformio yn Gŵyl Fach y Fro, mae’r ysgol yn manteisio ar ddigwyddiadau celfyddydol. O wneud, mae plant yn cael llwyfan i berfformio ac yn elwa o ennill hyder ac o’r boddhad mae ymarfer caled, goresgyn heriau a phrofi llwyddiant yn ei roi. 
 

indoor-dance@2x.png
Mynegiant a mwynhad

Yn Ysgol Sant Baruc, rydym ni’n gwybod a chydnabod nad ydy pawb eisiau bod ar lwyfan y brifwyl, bod rhai ddim eisiau mynd ar gyfyl llwyfan ysgol, na bod hyn i bawb. Nid nod ein cwricwlwm ydy gweld enwau ein plant yn rolio ar sgrîn sinema rhyw ddiwrnod ond yn hytrach i feithrin mwynhad a boddhad personol mewn mynegiant creadigol yn y gobaith bydd hyn yn gwella ansawdd bywydau plant.

speech-boy@2x.png