humanities_cynefin.svg
A sense of cynefin

Mae’n synnwyr o bwy ydym ni a phwy fyddwn ni wedi’i wreiddio yn ein hanes, daearyddiaeth a fframwaith moesegol. 

Mae’r maes dysgu yma yn sbardun i ryfeddu, yn tanio’r dychmygu ac yn ysbrydoli. Wrth blymio i’r maes dysgu yma mae rhywun yn dysgu i bwy ac i beth maen nhw’n perthyn - dyma ddod i adnabod ein cynefin. 

humanities_natural.svg
Our diverse, dynamic natural world

Mae’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n cael eu datblygu yn y Dyniaethau yn cynnwys daearyddiaeth; hanes; crefydd, gwerthoedd a moeseg; astudiaethau busnes a chymdeithaseg.

Mae’i rhychwant yn cynnwys ystyried ein byd naturiol rhyfeddol, amrywiol, deinamig a deall bod profiadau dynol yn hynod gymhleth a’u bod yn cael eu cynrychioli, eu dehongli a’u deall mewn ffyrdd gwahanol. 

Felly, yn Ysgol Sant Baruc, rydym ni’n dechrau yn ein milltir sgwâr, yn agos at adref ac yn dysgu am y bobl o’n cwmpas ni. Rydym ni’n dysgu am y cyfraniadau gwerthfawr mae trigolion y Barri wedi gwneud i’w hardal leol ac i’r byd. 

science_nature.svg
Ysgol Sant Baruc: bringing the world to Barry, to take Barry to the world

Rydym ni hefyd yn ystyried safle ein gwlad ni yn y byd a’r pethau sy’n perthyn i Gymru, i’w rhannu â’r byd. Mae hyn yn datblygu plant gwybyddus, hunan-ymwybodol. 

Wrth i ddisgyblion aeddfedu, drwy archwilio ac ymholi, mae plant yn cymharu rhannau gwahanol o’r byd gyda Chymru a’r ffyrdd mae unigolion ledled y byd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu gwledydd, cymunedau a perthnasau. 

Gwnewn hyn gyda’r nod o rymuso ein disgyblion i fynd a gwneud yr un fath.

Yn Ysgol Sant Baruc, down â’r byd i’r Barri i fynd a’r Barri i’r byd.