Pennaeth
Mrs Rhian Andrew
Mewn gwirionedd, does dim sy’n well gan Mrs Andrew na chlonc dda - dros baned, yn ddelfrydol! Mae hi wrth ei bodd yn cyfarch pawb yn fore wrth giat yr ysgol a dod i adnabod cymuned yr ysgol yn well.
Yn y Barri mae Mrs Andrew wedi treulio ei gyrfa’n grwn. Dechreuodd hi ddysgu yn Ysgol Gymraeg Sant Curig. A hithau’n athrawes ddosbarth lwyddiannus, cafodd ei hapwyntio yn Ddirprwy Bennaeth ar yr un ysgol.
Yn 2010, derbyniodd swydd Pennaeth Ysgol Sant Baruc ac ymrwymo i ymroi, unwaith eto, i gymuned y Barri.
Yn 2018, hyfforddodd Mrs Andrew yn arolygydd Estyn, ac, ar hyn o bryd, mae hi’n darparu modiwl hyfforddiant i Uwch Arweinwyr mewn Addysg.
Mae Mrs Andrew yn mwynhau cyd-weithio ag ysgolion Cymraeg eraill y Barri a Bro Morgannwg er mwyn mireinio y ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg. I’r perwyl hwn mae hi’n cynrychioli clwstwr ysgolion cyfrwng Cymraeg ar grwp llywio Penaethiaid Bro Morgannwg gan eirioli ar ran y sector Gymraeg.
Ond, er ei chyfraniad ar draws addysg, mae’i chalon hi yn Ysgol Sant Baruc. Mae hi’n dwlu ar ei gwaith ac yn teimlo gwir anrhydedd o gael arwain tîm ymroddedig o staff mewn cymuned ysgol gyfeillgar a chroesawgar.