Dirprwy Bennaeth + Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mr Steffan Elis
Yr hyn sy’n gafael yn nychymyg ag egni Mr Elis ydy’r rhychwant o brofiadau a chyfleoedd mae gyrfa yn y byd addysg yn ei ddarparu. Mae Mr Elis wedi dysgu mewn ysgolion ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg ers 2010 cyn ymuno â thîm Ysgol Sant Baruc yn 2020.
Yn ei rôl Dirprwy Bennaeth, mae Mr Elis yn cymryd cyfrifoldeb am Addysgu a Dysgu, Dysgu Proffesiynol, Llesiant a Chynhwysiant ac Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mae wrth ei fodd yn dysgu ieithoedd a cherddoriaeth. Yn cymryd bryd Mr Elis mae Chwarae (ag ‘Ch’ fawr!) a pherthnasoedd iâch. Mae boddhad Mr Elis wrth ei waith yn deillio o’r cynnydd y mae’r plant yn ei wneud ac wrth eu clywed yn mwynhau byw a bod yn y Gymraeg.