Gwybodaeth bwysig am hygyrchedd


Mae’n bwysig iawn i ni bod ein gwefan ni yn hawdd i’w ddefnyddio, i’w ddeall ac yn hygyrch.  
 
I wneud ein gwefan mor hygyrch a phosib, rydym ni wedi cymryd y camau isod gan ddilyn canllawiau WCAG 2.1.
 

Canfod

  • rydym wedi gosod alt text i gyd-fynd a chynnwys sydd ddim yn destun

  • mae cynnwys y wefan wedi ei drefnu yn rhesymegol

  • rydym ni wedi osgoi defnyddio lliw yn unig i esbonio neu wahaniaethu rhywbeth

  • defnyddio lliwiau testun sy’n hawdd i’w darllen o ystyried y cefndir

  • mae’r wefan yn un sy’n ymateb: er enghraifft, mae’n newid gogwydd os ydych chi’n troi’ch ffôn chi

 
Gweithredu

  • mae cynnwys sy’n symud yn gallu cael ei stopio, ei oedi a’i chwarae

  • mae’r wefan wedi ei threfnu fel bod pobl yn medru symud drwy’r cynnwys mewn modd sy’n gwneud synnwyr

  • rydym ni’n defnyddio dolenni sy’n glîr o ran i ble byddan nhw’n cymryd rhywun

 
Deall

  • rydym yn gwneud hi’n glîr ym mha iaith mae’r cynnwys, a hysbysu os ydy hyn yn newid

  • rydyn ni wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y wefan yn gyson ac ymddwyn mewn modd disgwyliadwy

  • mae gan ffurflenni feysydd llenwi amlwg, clîr

 
Cadarn

  • rydym yn defnyddio HTML fel bod technoleg gynorthwyol yn medru dehongli gwybodaeth yn gyflym

  • mae gwybodaeth bwysig neu negeseuon wedi eu llunio mewn modd sy’n hysbysu defnyddwyr o’u bodolaeth a’u bwriad, ac yn eu caniatáu nhw i ryngweithio â nhw gyda’u technoleg gynorthwyol

 
Os oes elfennau o’n gwefan ni nad sydd yn bodloni anghenion sydd ganddoch chi, os gwelwch yn dda, cysylltwch â ni: post@santbaruc.cymru