Data wrth ddata, a oes preifatrwydd?
Preifatrwydd!
Gwybodaeth bersonol tu fewn i ffurflenni, a oes preifatrwydd?
Preifatrwydd!
Gwefannau trydydd-parti sy’n darparu gwasanaeth i ni ar ein gwefan, a oes preifatrwydd?
Preifatrwydd! (Wel, dylech chi ddarllen eu polisïau nhw ond, siwr o fod.)
 

Pa wybodaeth ydych chi’n ei gasglu te?

Mae’n gwefan ni’n casglu gwybodaeth bersonol wrthoch chi mewn dwy ffordd:

1. gwybodaeth rydych chi’n ei ddarparu eich hunain
2. gwybodaeth sy’n cael ei gasglu’n awtomatig
 
Fel byddech chi’n disgwyl, dydyn ni ddim yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol i unrhywun. Nid am yr holl aur yn y byd! Mae e’n saff.
 

Data rydych chi’n ei ddarparu eich hunain

Wrth ddefnyddio ein gwefan, mae yna gyfleoedd i chi wirfoddoli gwybodaeth bersonol er mwyn defnyddio ein cyfleusterau neu gwneud trefniadau ar gyfer eich plant.
 

Ffurflenni

Ar ein gwefan ni, mae yna ffurflenni gwahanol. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei gasglu ar y ffurflen yn cael ei gadw ar gyfer bwriad arfaethedig y ffurflen.

Pan fyddwch chi’n cwblhau ffurflen ar wefan www.ysgolsantbaruc.cymru, bydd y wybodaeth yn cael ei ddanfon i Ysgol Gymraeg Sant Baruc. 


Noson Rieni

Rydym ni’n defnyddio calend.ly er mwyn trefnu apwyntiadau noson rieni. Bydd dolen o’n gwefan ni’n eich cymryd chi yno.

Cewch hyd i’r ffyrdd maen nhw’n cadw data drwy bwyso’r ddolen hon: Calendly Privacy Notice


Cysylltu â ni

Pan fyddwch yn llenwi’r blwch ‘cysylltu â ni’, byddwn ni’n cadwch manylion cyswllt chi er mwyn cysylltu gyda chi. Byddwn ni ddim yn cadw eich manylion chi oddi ar hynny heblaw eich bod chi’n dymuno ac yn rhoi caniatâd i ni wneud hynny. 

Pan fyddwch chi’n ein e-bostio ni, bydd yr e-bost yn cyrraedd ein swyddfa weinyddol a byddwn nhw’n diogelu’r data hwnnw. Mae’r mewnflwch ar weinydd yr Awdurdod Lleol.
 

Data sy’n cael ei gasglu yn awtomatig

Wrth i chi ddefnyddio’r wefan, mae’r Cwcis yn casglu gwybodaeth yn awtomatig. Maen nhw’n ein helpu ni i wybod sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan ni. Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth yna i fireinio ein gwefan ni. 

Ystadegau Defnydd

Mae gwybodaeth sy’n cael ei gasglu’n awtomatig yn cael ei ddanfon i Google Analytics i ni gael deall yn well sut mae pobl yn defnyddio’r wefan. 

Dyma ragor o wybodaeth am bolisi preifatrwydd Google.


Twitter

Ar dudalennau ple mae cynnwys Twitter wedi ei fewnosod, gallai Twitter fod yn casglu data wrthoch chi yn awtomatig. Mae’n werth i chi wirio eich gosodiadau Twitter chi ar y dudalen Twitter Personalization.


Log Gweinydd

Mae’n gweinyddion ni’n cadw cofnod o dudalennau y wefan sy’n cael eu defnyddio ond dydyn nhw ddim yn casglu nac yn storio data personol.

Gallwch ddarllen polisi llawn Preifatrwydd ar ein tudalen.

Newidiadau i’r Datganiad Preifatrwydd.

Cedwir yr hawl i newid y wybodaeth yma heb rybudd.